Nôd “Gosber” yw cynnull cymuned ar gyfer oedfa arlein wythnosol - cyfle i addoli, myfyrio a chymdeithasu yn Gymraeg yn nhraddodiad Anglicanaidd yr Eglwys yng Nghymru. Gwnawn hyn yn ystod y pandemig, ond yn y gobaith o fagu gwreiddiau fydd yn ein cynnal y tu hwnt i hynny yn gymuned weddïgar, feddylgar, agored a charedig.
Gwyliwch oedfaon yr wythnosau diwethaf, fu’n fyw ar Zoom, wedi eu recordio ar ein tudalen YouTube
Tymor i fod yn elusengar yw’r Grawys - i roi’n hael o’n meddiannau ninnau i gefnogi’r anghenus. Eleni, bu inni dderbyn rhoddion ariannol i gefnogi tri achos da Cymraeg lleol ag iddynt gysylltiad ag oedfa Gosber: Ysgol Llanbedrgoch, y mae Wenda Owen o’n cynulleidfa yn un o’i llywodraethwyr; Banc Bwyd Eglwys Sant Pedr ym Mhwllheli, y mae Archddiacon Meirionnydd yn gaplan iddo; a Chyfeillion Nant Gwrtheyrn sy’n cefnogi gwaith y ganolfan iaith yn y Nant.
Curad yn Llandudno, Ysgrifennydd Esgobaeth Bangor, ac arweinydd oedfaon Gosber
Archddiacon Meirionnydd, a phregethwr achlysurol yn oedfaon Gosber
Cerddor ac aelod o dîm Esgobaeth Bangor, a chyfarwyddwr cerdd oedfaon Gosber
Rhowch eich cyfeiriad ebost yma er mwyn derbyn y ddolen Zoom ar gyfer pob oedfa Gosber, ynghyd â diweddariau eraill am ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth.
Mae croeso mawr i chi gysylltu am fwy o wybodaeth neu am gyngor bugeiliol.
Anfonwch ebost at Siôn.