Apêl Grawys Gosber 2021

Gweddi, ymprydio ac elusengarwch – dyna dair nodwedd ysbrydol y Grawys ers ddyddiau’r Eglwys Fore.

Mae’r Grawys yn dymor i weddïo - i adfywio ein patrwm gweddi, drwy neilltuo mwy o amser i fyfyrio ac addoli. Mae’r Grawys yn dymor i ymprydio - i ymwrthod â moethau ac ambell beth amheuthun, gan brofi yn ein cnawd ninnau beth o ddioddefaint Crist. Ac mae’r Grawys yn dymor i fod yn elusengar - i roi’n hael o’n meddiannau ninnau i gefnogi’r anghenus.

Bu i Apêl Grawys Gosber 2021 fod yn fodd i gyflawni’r trydydd nôd ysbrydol yma o elusengarwch.

Tri achos da

Drwy wefan Justgiving, bu inni dderbyn rhoddion ariannol i gefnogi tri achos da Cymraeg lleol ag iddynt gysylltiad ag oedfa Gosber:

Ysgol Llanbedrgoch, y mae Wenda Owen o’n cynulleidfa yn un o’i llywodraethwyr; Banc Bwyd Eglwys Sant Pedr ym Mhwllheli, y mae Archddiacon Meirionnydd yn gaplan iddo; a Chyfeillion Nant Gwrtheyrn sy’n cefnogi gwaith y ganolfan iaith yn y Nant.

Rhoi

Mae modd rhoi ar wefan Justgiving yn hollol ddienw os mai dyna'ch dymuniad. Gellir talu drwy ddefnyddio cerdyn banc, ApplyPay neu fodd talu arlein arall. Nid oes rhaid talu ffi i Justgiving ar ben eich cyfraniad.

Bydd y cyfanswm a godir yn ystod y Grawys yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng y tri achos da.

Ysgol Llanbedrgoch

Ysgol gynradd, wledig ag iddi naws gartrefol a Chymreig ydi Ysgol Llanbedrgoch ar Ynys Môn. Bydd rhodd Apêl Grawys Gosber yn cefnogi cynllun sydd ar y gweill i greu gardd synhwyrus yn llibart yr ysgol. Bydd y planhigion a gaiff eu plannu a’r bywyd gwyllt a fydd yn cael ei ddenu yn sbardun i’r synhwyrau – i’w gweld, eu clywed, eu harogli a’u teimlo. Y bwriad yw cydweithio ag aelodau o’r gymuned leol, gan gynnwys y dosbarth Cymraeg a’r grwp Hanes Lleol sy’n cyfarfod yn Y Ganolfan yng nghanol y pentref, i greu’r ardd. Tu hwnt i oriau ysgol, bydd croeso i’r gymuned leol hefyd fwynhau’r ardd.

Banc Bwyd Eglwys Sant Pedr

Mae’r banc bwyd ar agor yn Eglwys Sant Pedr ym Mhwllheli ddwywaith yr wythnos, ar bnawn Mawrth a phnawn Gwener. Fel arfer caiff oddeutu pymtheg o gleientiaid eu croesawu ym mhob sesiwn – pobl sengl, teuluoedd ac, hyd yn oed ym Mhwllheli, rhai sydd yn ddigartref. Mae’r tîm yn cynnwys gwirfoddolwyr lleol a’r Archddiacon yn gaplan. Bu misoedd y pandemig yn rhai heriol, gyda chynnydd yn nifer y teuluoedd ifanc sy’n cael eu cyfeirio i ofal y banc bwyd. Er gwaetha’r galw trwm ar y tîm, mae’n fraint i’r Eglwys gynnig lletygarwch mor angenrheidiol yn y gymuned.

Cyfeillion Nant Gwrtheyrn

Mae Nant Gwrtheyrn, neu “y Nant” fel y’i gelwir ar lafar gwlad, yn le hudolus wedi’i leoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Pen Llŷn. Mae’r ganolfan iaith yno yn arbenigo mewn cyrsiau Cymraeg i oedolion drwy gyfrwng cyrsiau preswyl dwys sydd ar gael gydol y flwyddyn. Mae gallu’r ganolfan i ddarparu ei chyrsiau am brisiau rhesymol, ac i gynnal a chadw’r cyfleusterau yn ogystal â’r ffordd fynediad, yn cael ei gefnogi gan fentrau masnachol – ond fe fu codi pres gan gefnogwyr drwy law Cyfeillion Nant Gwrtheyrn yn rhan hanofodol o fywyd y Nant ers y dyddiau cynnar.

Rhoi

Defnyddiwn wefan Justgiving I dderbyn rhoddion.

Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned i gyd-fyw bywyd cytûn; caniatâ i ni weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.

© 2020 Ardal Weinidogaeth Bro Tudno | Elusen gofrestredig 1131171

Twitter icon
Facebook icon
YouTube icon
Intuit Mailchimp logo